Gosodwaith aml-gyfrwng yw Parade sy’n cynnig golwg newydd a dihafal ar y Maendy, a’r bobl eu hunain yn amlwg eu lle.
Mae Parade yn cynnwys perfformiadau arbennig y gwaith yn Llyfrgell y Maendy, ochr yn ochr â lansio’r porth ar-lein, sydd wedi’i lunio’n arbennig ac sy’n cynnwys portreadau unigol, sy’n amlygu hanesion, barn ac achosion personol sydd o bwys i bobl y Maendy, yn eu geiriau eu hunain. Gobeithio y bydd y portreadau sain hyn yn cyfleu tipyn o beth yw byw yma, mewn ffordd newydd a dadlennol, gyda rhoi llwyfan i’r bobl ddweud eu dweud: y rheini sy’n byw, yn astudio, yn gweithio, yn gwirfoddoli, ac yn addoli yma.
Mae modd olrhain hanes y Maendy yng ngweddnewid ei adeiladau: y newid yn eu defnydd a’u swyddogaeth, eu gadael yn segur, neu eu chwalu’n gyfan gwbl, a rhoi’r newydd yn eu lle. Ond os edrychwn yn fwy clòs ar y newid hwn, daw llun ar glawr o boblogaeth y Maendy dros gyfnod. Hefyd, mae beth sy’n ffurfio’r Maendy yn aneglur; gofynnwch i ddau berson ymhle mae ei ffiniau, ac fe gewch ddau ateb gwahanol! Felly efallai na ellir synio amdano fel ardal Ddaearyddol, ond yn hytrach fel agwedd, ffordd o edrych ar y Byd. Hwyrach, yn hytrach, mai’r bobl a’u natur agored sy’n diffinio’r “Maendy go iawn”. Efallai mai yn yr ymdeimlad hwn o gymuned y mae dadlennu i ni’r gwirionedd, neu’r gwirioneddau.
Adroddwr anhysbys sy’n corffori parêd amser, adroddwr a glywn drwy gydol y prif osodwaith. Mae’n ein tywys drwy’r newidiadau daearyddol yn yr ardal dros y Canrifoedd. Ond gyda threigl amser dechreuwn glywed y lleisiau gwirioneddol yn dod i’r fei ac yn torri ar draws ein hadroddwr mewn parêd newydd, cyfoes. Mae’n nhw’n sôn wrthym ac yn ein hatgoffa beth yw byw yma’n awr, heddiw, tra mae twrw ei synau, yn dod ar glawr yn araf, yn chwyrlïo ac yn chwyddo’n daith ymdrochol.
Ymateb yw’r mapio sain yma i beth ddarganfûm yn ystod fy nghyfnod yma, sef ei natur ddigymar. Drwy gyd-asio’r lleisiau a’r synau amrywiol yn collage ceisiais ddatgelu tipyn o beth sy’n gwneud y rhan yma o Ddinas Casnewydd yn wahanol, a rhyw ymdeimlad o beth yw byw yn y Gymru Drefol yn 2019. Mae’n gofeb newydd, gyfoes i bobl y Maendy, gan bobl y Maendy.
Cyd-guradwyd y darn comisiwn yma gan Joanne Sutton (Maindee Unlimited) a Sarah Pace (Addo), ac fe’i cyllidwyd yn rhan o’r fenter Dod o Hyd i Faendy – prosiect tair blynedd a gefnogir gan raglen strategol Cyngor Celfyddydau Cymru, Syniadau: Pobl: Mannau, a chanddi’n amcan roi prawf ar fodelau newydd adfywio a chydweithredu drwy’r celfyddydau.
Cyllidir y fenter yn rhannol gan Sefydliad Esmee Fairbairn, Ymddiriedolaeth Elusennol Garfield Weston a’r Cynllun Credyd Treth Tirlenwi drwy Gyngor Dinas Casnewydd.